Cynnydd yn nhaliadau iawndal esgeulustod meddygol yn codi i £38 miliwn

Published
image copyrightbbc
image captionLlywodraeth Cymru yn dweud bod y ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn un rheswm am y cynnydd yn y taliadau

Dros y tair blynedd diwethaf mae'r arian sy'n cael ei dalu mewn iawndal gan fyrddau iechyd yng Nghymru yn sgil achosion o esgeulustod meddygol, wedi dyblu.

Yn ôl ystadegau sydd wedi dod i law y BBC trwy gais deddf rhyddid gwybodaeth mae'n dangos bod dros £38 miliwn wedi'i dalu'r llynedd.

Dydi'r ffigwr yna ddim yn cynnwys y swm sydd wedi'i dalu gan Fwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg.

Yn ôl Llywodraeth Cymru, mae'r ffaith bod pobl yn byw yn hirach yn un rheswm am y cynnydd yn y taliadau.

Mae'r taliadau wedi codi £18 miliwn dros y tair blynedd diwethaf.

O ganlyniad i'r cynnydd mewn ceisiadau a chostau - cyfanswm o £84.3 miliwn dros y tair blynedd diwethaf - wedi arwain y llywodraeth i gynyddu'r gronfa risg £16 miliwn.

Chwech bwrdd iechyd

Mae cyfreithwyr yn dweud bod newid i daliadau graddol a chynnydd mewn iawndal i ddioddefwyr parlys ymennydd yn rhannol gyfrifol.

Fe wnaeth chwech o'r saith bwrdd iechyd ddarparu ystadegau gyda Bwrdd Iechyd Abertawe Bro Morgannwg yn dweud eu bod yn dal i gasglu ystadegau.

Fe wnaeth nifer y ceisiadau am iawndal godi ym mhob bwrdd iechyd ac eithrio Bwrdd Iechyd Addysgu Powys a oedd â llai na 15 cais dros y tair blynedd diwethaf.

Ond fe wnaeth y bwrdd weld y cynnydd mwya' mewn achosion gafodd eu setlo gan godi o £131,485 i bron i £6.5 miliwn o fewn y cyfnod.

Mae'r bwrdd yn dweud bod hyn o ganlyniad i "un achos hanesyddol sy'n deillio o gyfnod cyn sefydlu'r bwrdd".

Fe wnaeth nifer yr achosion yn ardal Bwrdd Iechyd Betsi Cadwaladr fwy na dyblu, cynnydd o bron i £6.3 miliwn sef cyfanswm o £22.8 miliwn mewn tair blynedd.

Mae'r gronfa risg gan Lywodraeth Cymru yn cael ei ddefnyddio i ddigolledu byrddau iechyd am geisiadau dros £25,000.

Roedd cyfanswm o daliadau a wnaed o'r gronfa yma yn 2011/12 wedi codi i £49.7 miliwn.

image copyrightGetty Images
image captionMae arian yn y gronfa risg wedi cynyddu £16 miliwn

Costau'n codi

Eglurodd Stephen Webber, pennaeth esgeulustod meddygol cwmni cyfreithwyr Hugh James yng Nghaerdydd, fod y modd mae ceisiadau yn cael eu setlo wedi newid.

"Lle'r oedd teuluoedd plant â pharlys yr ymennydd er enghraifft yn derbyn un swm o arian am esgeulustod yn y gorffennol, nawr maen nhw'n derbyn swm llai ond yn cael tâl blynyddol.

"Mae'n golygu bod y costau blynyddol yn codi."

Ychwanegodd fod swm yr iawndal wedi codi hefyd.

"Yn y gorffennol byddai achos o esgeulustod a arweiniodd ar barlys yr ymennydd tua £4 miliwn, erbyn hyn mae'n nes at £10 miliwn," meddai.

"Mae costau gofal wedi cynyddu yn ddramatig yn ogystal â chost offer arbenigol.

"Gall rhai feddwl bod derbyn iawndal fel ennill y loteri, ond dyw e ddim.

"Mae esgeulustod meddygol yn cael effaith ar fywyd teulu cyfan."

Dywedodd llefarydd y Ceidwadwyr yng Nghymru ar Iechyd, Darren Millar, y gallai toriadau mewn cyllidebau arwain at fwy o achosion o esgeulustod.

Pwysau ar weithwyr

"Rydym yn wynebu gwasanaeth iechyd sy'n wynebu mwy a mwy o bwysau ariannol.

"Mae 'na fwy o geisiadau yn cael eu talu ac felly mae'n amlwg bod rhywbeth o'i le yn rhywle."

Dywedodd ei fod yn credu bod gan gyfreithwyr sy'n cynnig gwasanaeth "dim tâl heb ennill achos" a'u rhan i'w chwarae ond bod mwy a mwy o bwysau ar y gweithwyr iechyd.

Ychwanegodd Desmond Hudson, Prif Weithredwr Cymdeithas y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr fod mwy a mwy o bobl yn ymwybodol o'u hawl i wneud cais am iawndal.

"Os oes rhaid i'r llywodraeth roi mwy o arian yn y gronfa risg, mae'n awgrymu bod yr achosion o esgeulustod ar gynnydd yn ysbytai Cymru."

Dywedodd llefarydd ar ran Llywodraeth Cymru fod miloedd o gleifion yn derbyn triniaeth o'r safon ucha', yn ddiogel ac yn effeithiol bob blwyddyn.

"Ond mewn system iechyd modern, lle mae trefniadau cymhleth yn cael eu gweithredu - mae camgymeriadau yn gallu digwydd.

"Pan mae hyn yn digwydd, mae'n rhaid i'r gwasanaeth iechyd ymchwilio, a gweithredu lle bo'n addas a chynnig sicrwydd ac ymateb i gleifion," meddai.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol