Prif Weithredwr y Sioe Frenhinol i ymddeol y flwyddyn nesa'
- Cyhoeddwyd

Fe fydd Prif Weithredwr Cymdeithas Amaethyddol Frenhinol Cymru yn ymddeol y flwyddyn nesaf.
Ar ôl bron i 30 mlynedd yn y swydd dywed David Walters fod o wedi gwneud "penderfyniad anodd".
Ond ychwanegodd fod yr amser wedi dod i drosglwyddo'r awenau i rywun iau.
Fe ddywedodd wrth Fwrdd Cyfarwyddwr y Sioe ei fod am adael pan fydd yn cyrraedd oed ymddeol fis Mai 2013.
Mewn ymateb dywedodd y bwrdd eu bod yn derbyn ei benderfyniad.
Cafodd ei ddisgrifio fel rheolwr triw ac ysbrydoledig o ran materion y gymdeithas ac fel arweinydd gwych.
Dywedodd Mr Walters iddo "wneud penderfyniad anodd".
Egni ifanc
"Fe fyddaf yn colli fy nghydweithwyr a'r cyffro o swydd mor arbennig, un dwi wedi ei fwynhau," meddai.
"Ond mae'r amser wedi dod i wneud lle i rywun iau.
"Mae rhedeg y gymdeithas yn gofyn am egni rhywun ifanc a fydd yn arwain y gymdeithas ymlaen at lwyddiant yn y dyfodol."
Fe wnaeth Mr Walters ymuno gyda'r gymdeithas ym 1976 ar ôl graddio o Brifysgol Aberystwyth ac mae o wedi treulio'r rhan fwyaf o'i fywyd gwaith gyda'r gymdeithas.
Cafodd ei benodi yn Ysgrifennydd ym 1978 ac yna yn brif weithredwr ym 1984.
"Fel prif weithredwr y gymdeithas mae o wedi ennyn parch ffermwyr yng Nghymru ac edmygedd cyfoedion mewn cymdeithasau amaethyddol eraill drwy'r DU," meddai datganiad gan y bwrdd.
"Mae o wedi bod yng nghanol datblygiadau sydd wedi gweld y Sioe Frenhinol, y Ffair Aeaf a'r Ŵyl Wanwyn, yn cael effaith sylweddol ar yr economi yng nghefn gwlad Cymru.
"Mae ei gyfraniad i lwyddiant y gymdeithas wedi bod yn amhrisiadwy ac roedd y cyfarwyddwyr yn gyndyn i dderbyn ei benderfyniad i adael.
"Ond rydym yn cydnabod bod hwn yn benderfyniad personol ac rydym yn diolch iddo am ei holl waith ac yn dymuno'r gorau iddo yn ei ymddeoliad hir a hapus."
Straeon perthnasol
- 26 Gorffennaf 2012
- 19 Mehefin 2012
- 26 Mehefin 2011