Ched Evans wedi methu yn ei apêl i wyrdroi ei ddyfarniad

Ched Evans Image copyright Other
Image caption Cafodd Ched Evans ei garcharu am bum mlynedd am dreisio

Mae cyfreithwyr y pêl-droediwr Ched Evans yn dweud bod cam cyntaf ei ymgais i apelio'n erbyn y dyfarniad ei fod yn euog o dreisio wedi bod yn aflwyddiannus.

Ym mis Ebrill cafodd Evans, o'r Rhyl, ei garcharu am bum mlynedd.

Roedd rheithgor wedi ei gael yn euog o dreisio dynes 19 oed mewn gwesty yn Rhuddlan ym mis Mai 2011.

Roedd Evans, 23 oed, wedi pledio'n ddieuog i'r cyhuddiad.

Fe fydd yn parhau i ofyn am yr hawl i apelio yn ôl ei gyfreithwyr.

Mae Evans yn dal i fynnu ei fod yn ddieuog o dreisio.

Roedd o wedi cyfadde' i gael rhyw gyda hi.

Roedd y ddynes wedi dweud nad oedd ganddi unrhyw atgof o'r digwyddiad.

Dywedodd yr erlyniad ei bod wedi meddwi gormod i gytuno i gael rhyw.

Cafwyd y pêl-droediwr Clayton McDonald, 23 oed, oedd wedi cyfadde' hefyd i gael rhyw gyda'r ddynes, yn ddieuog o'i threisio.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.