Cerddwr wedi ei ladd mewn gwrthdrawiad

Damwain

Fe gafodd dyn ei ladd mewn gwrthdrawiad ar yr A55 yn hwyr nos Sadwrn.

Fe gafodd y gwasanaethau brys eu galw i ffordd ddwyreiniol yr A55 ger Rhuallt yn Sir Ddinbych am 9:30pm.

Roedd tri cherbyd yn rhan o'r gwrthdrawiad, ond roedd y dyn fu farw yn cerdded ar y ffordd.

Fe gafodd y ffordd ei chau rhwng cyffyrdd 28 a 29 am gyfnod, ond mae bellach wedi ailagor.

Dywed Heddlu'r Gogledd eu bod yn apelio am dystion i'r digwyddiad i gysylltu â nhw drwy ffonio 101, neu fe all pobl ffonio Taclo'r Tacle yn ddienw ar 0800 555111.