Enw newydd arall i'r Liberty

Jamie Proctor Image copyright PA
Image caption Treuliodd Jamie Proctor y tymor diwethaf ar fenthyg gyda Rangers yn Yr Alban

Mae Clwb Pêl-droed Abertawe wedi cyhoeddi dau ychwanegiad arall i'w carfan ar drothwy tymor newydd yn yr Uwchgynghrair.

Cyhoeddodd y clwb nos Wener fod yr ymosodwr Jamie Proctor wedi ymuno â'r clwb o Preston ar gytundeb dwy flynedd.

Nid yw'r ffi drosglwyddo wedi cael ei wneud yn hysbys.

Daw'r cyhoeddiad oriau yn unig wedi i Abertawe gadarnhau bod yr amddiffynnwr Kyle Bartley yn symud o Arsenal i Stadiwm Liberty ar gytundeb tair blynedd.

Gallai Bartley chwarae yn y gêm gyntaf o'r tymor newydd yn erbyn Queens Park Rangers ddydd Sadwrn.

Mae'r ddau yn ymuno gyda Jonathan De Guzman, Michu, Chico Flores ac Itay Shechter fel chwaraewyr newydd yng ngharfan Yr Elyrch ar gyfer y tymor newydd.