Heddlu yn arestio tri yn Abertawe

Cyhoeddwyd
Disgrifiad o’r llun, Dywed yr heddlu eu bod wedi dod o hyd i'r cyffur mewn ty.

Mae'r heddlu yn Abertawe wedi arestio dyn 19 oed a dwy fenyw, 58 oed a 30 oed, ar amheuaeth o fod â'r cyffur Mephedrôn yn eu meddiant gyda'r bwriad o gyflenwi eraill.

Yn ôl yr heddlu cafwyd hyd i Mephedrôn - sydd hefyd yn cael ei alw'n miaw miaw - gyda gwerth stryd o tua £4,000.

Cafwyd hyd i'r cyffur mewn tŷ yn ardal Waun Wen ac mae'r tri gafodd eu harestio wedi eu rhyddhau ar fechnïaeth.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol