Safon Uwch: Gobeithio cau'r bwlch
- Cyhoeddwyd

Wrth i ddisgyblion Cymru dderbyn canlyniadau arholiadau Safon Uwch ddydd Iau, mae un undeb athrawon yn gobeithio gweld y bwlch rhwng Cymru a gweddill y DU yn cau.
Y llynedd roedd cynnydd yn nifer y myfyrwyr o Gymru a basiodd arholiadau, ond roedd y nifer a gafodd raddau A* ac A yn is na'r cyfartaledd am weddill y DU.
Dywedodd Llywodraeth Cymru fod hynny am nad oedd y fagloriaeth Gymraeg yn cael eu cynnwys yn y ffigyrau.
Roedd undeb NUT Cymru yn dweud eu bod yn gobeithio gweld y bwlch yn cau.
Ffioedd
Mae nifer y ceisiadau i bob prifysgol yng Nghymru i lawr eleni, ac mae bob un yn disgwyl y bydd lleoedd ar gael i ddisgyblion sy'n mynd drwy'r broses glirio.
Y disgyblion sy'n mynd ymlaen i brifysgol fydd y cyntaf i orfod talu ffioedd uwch am eu haddysg - hyd at £9,000 y flwyddyn mewn rhai sefydliadau.
Ond ni fydd rhaid i ddisgyblion o Gymru dalu mwy na £3,500, gyda Llywodraeth Cymru yn talu'r gweddill.
Y llynedd fe gafodd ychydig dros 97% o ddisyblion raddau A* i E - cynnydd bach yn y nifer a basiodd o 2010.
Ond dim ond 6.3% gafodd radd A* - llai na'r flwyddyn flaenorol a bron 2% yn llai na chyfartaledd y DU. Roedd bwlch mwy o 3% ar gyfer graddau A.
Dim darlun llawn
Roedd y Gweinidog Addysg Leighton Andrews yn gwrthod derbyn bod perfformiadau Cymru yn waeth na gweddill y DU.
Pwysleisiodd fod mwy nag erioed - tua 7,000 o bobl ifanc - wedi ennill diploma yn y Fagloriaeth Gymreig, sy'n cyfateb i radd A yn y Safon Uwch.
Oherwydd hynny, mynnodd nad oedd y ffigyrau yn rhoi darlun llawn o addysg ôl-16 oed yng Nghymru.
Dywedodd Owen Hathway, swyddog polisi NUT Cymru, mai graddau A* ac A oedd yn parhau i fod y "safon euraid" gan mai dyna oedd y rhai yr oedd prifysgolion a chyflogwyr yn chwilio amdanynt.
Ychwanegodd ei fod yn gobeithio gweld disgyblion Cymru yn cau'r bwlch rhyngddyn nhw a gweddill y DU.
"Rwy'n gobeithio mai eithriad oedd y llynedd ac y byddwn ni'n gweld canlyniadau positif sy'n dangos gwelliant," meddai.
Roedd yn ymwybodol o bryderon ymysg rhai rieni am y Fagloriaeth Gymreig, ond dywedodd: "Rydym yn gwybod bod y fagloriaeth yn gymhwyster da."
Dewisiadau
Doedd gan rai o brifysgolion Cymru ddim lleoedd i gynnig yn y sustem glirio y llynedd, ond mae pob un yn disgwyl y bydd lleoedd ar gael eleni.
Dywedodd Prifysgol Casnewydd ei bod yn bosib y bydd nifer y lleoedd fydd ganddynt ar gael yn dyblu o'i gymharu â'r llynedd, ac fe fydd Prifysgol Aberystwyth yn y sustem glirio am y tro cyntaf ers tair blynedd.
Dywedodd Amanda Wilkinson, cyfarwyddwr Addysg Uwch Cymru, fod dewisiadau ar gael i ddigyblion oedd ddim wedi llwyddo i gael y graddau yr oeddent eu hangen ar gyfer eu dewis cyntaf o brifysgol.
"Bydd ymgeiswyr sydd heb gael y graddau yn cael eu derbyn i gyrsiau," meddai.
"I'r rhai sy'n ystyried eu dewsiadau o'r newydd, neu sydd wedi penderfynnu newid cyfeiriad o ganlyniad i'w marciau, ein cyngor yw i ymuno gyda'r sustem glirio a siarad gyda swyddogion y prifysgolion er mwyn cymharu dewisiadau."
Straeon perthnasol
- 16 Awst 2012
- 10 Gorffennaf 2012
- 18 Awst 2011
- 18 Awst 2011