Croeso i athletwyr Paralympaidd yn y Senedd

carwyn jones
Image caption Dywedodd Carwyn Jones fod y Gemau Paralympaidd yn ysbrydoliaeth

Bydd timau Paralympaidd o bum cyfandir a fydd yn aros yng Nghymru cyn Gemau Llundain 2012 yn cael eu croesawu gan y Prif Weinidog Carwyn Jones mewn derbyniad arbennig.

Bydd y digwyddiad yn y Senedd ddydd Iau yn estyn croeso i'r athletwyr a hefyd y bobl sy'n eu cynorthwyo.

Dywedodd Mr Jones fod y Gemau Paralympaidd yn "ddigwyddiad ysbrydoledig" lle mae athletwyr yn "goresgyn rhwystrau enfawr".

Bydd y Gemau Paralympaidd yn dechrau yn swyddogol yn Llundain ar Awst 29.

Ymhlith y timau fydd yn ymgartrefu yng Nghymru tan hynny mae Seland Newydd, Awstralia, Mecsico, Liberia ac India.

Cysylltiadau

Ychwanegodd Mr Jones: "Yn y cyfnod sy'n arwain at y Gemau Paralympaidd, mae'n wych bod Cymru yn medru croesawu nifer o dimau cenedlaethol ar draws y byd.

"Mae timau wedi dewis Cymru fel eu cartref dros dro am ein bod yn medru cynnig ystod eang o adnoddau chwaraeon o safon byd eang, a'r wybodaeth berthnasol ac arbenigedd i gynnig gwasanaeth i athletwyr Paralympaidd.

"Mae presenoldeb y timau hefyd yn rhoi cyfle i ni ddatblygu cysylltiadau chwaraeon, addysgol a diwylliannol rhwng ein gwledydd.

"Rwy'n dymuno'r gorau i bob un ohonyn nhw."

Straeon perthnasol