Pedair ffatri Remploy yn cau

Bydd pedair o ffatrïoedd Remploy - yn Aberdâr, Abertyleri, Merthyr Tudful a Wrecsam - yn cau ddydd Iau gyda 189 o bobl yn colli'u gwaith.
Yn gynharach eleni, honnodd llywodraeth y DU y gallai'r gyllideb o £320 miliwn ar gyfer cyflogi pobl anabl gael ei gwario'n well.
Yn dilyn y cyhoeddiad, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru gynllun gwerth £2.4m i gyflogwyr yng Nghymru fyddai'n cynnig swyddi i gyn weithwyr Remploy am o leiaf bedair blynedd.
Ym mis Gorffennaf, gwrthododd penaethiaid Remploy gynnig preifat i gymryd yr awenau yn ffatri Wrecsam fyddai wedi achub 40 o swyddi.
Mewn datganiad i Dŷ'r Cyffredin, dywedodd Gweinidog Pobl Anabl, Maria Miller: "Rydym yn gwneud popeth o fewn ein gallu i sicrhau bod gweithwyr Remploy yn derbyn pecyn cynhwysfawr o gefnogaeth ac arweiniad er mwyn symud o gyflogaeth sy'n cael ei warchod gan y llywodraeth i waith prif lif."
Cafodd ffatrïoedd Remploy eu sefydlu 66 o flynyddoedd yn ôl.
'Ergyd'
Disgrifiodd llefarydd yr wrthblaid ar Gymru, Owen Smith AS, y cyhoeddiad fel "ergyd go iawn i weithwyr sydd wedi dibynnu ar gyflogaeth sefydlog yn ffatrïoedd Remploy am flynyddoedd lawer".
"Mae ffatrioedd Remploy yn ateb amherffaith i anghenion cyflogaeth gweithwyr anabl, ond ers blynyddoedd maen nhw wedi bod yn achubiaeth, ac yn yr hinsawdd bresennol yn ffynhonnell o gyflogaeth mewn maes lle mae swyddi'n bethau cynyddol brin," ychwanegodd.
Mae llefarydd Plaid Cymru ar bolisi cymdeithasol, Hywel Williams AS, wedi cefnogi galwad Llywodraeth Cymru i ddatganoli cyllideb Remploy.
Dywedodd: "Gallwn gyflawni llawer wrth ddatblygu cyflogaeth gyda chymorth yng Nghymru mewn modd creadigol a gwerth chweil os fydd y cyfrifoldeb, ac yn bwysicach yr adnoddau, yn cael eu trosglwyddo o Lundain i Gaerdydd."