Tair lôn ddwyreiniol Ail Bont Hafren wedi cau ar ôl gwrthdrawiad

Mae tair lôn ar Ail Bont Hafren wedi cau wedi gwrthdrawiad fore Mercher.

Mae'r tair lôn ddwyreiniol ar gau rhwng Cyffordd 23 Magwyr a Chyffordd 22 yr M49.

Cafodd y gwasanaethau brys eu galw i'r ddamwain rhwng pum car a dwy lori tua 11.20am yn ôl Heddlu Gwent.

Does 'na ddim anafiadau difrifol.

Mae traffig yn llwyddo i symud yn araf ar y llain galed yn unig gyda'r traffig yn cael ei ddargyfeirio ar hyd hen Bont Hafren.

Dywedodd Gwasanaeth Tân ac Achub De Cymru fod tri chriw o ddiffoddwyr wedi eu galw i'r ddamwain.

Mae 'na griwiau yn cael eu hanfon o wasanaeth tân Avon hefyd.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.