Achub dringwr oddi ar Benrhyn Sant Gofan

Cafodd dringwr ei gludo i'r ysbyty gan hofrennydd wedi iddo ddisgyn 100 troedfedd (30 metr) oddi ar Benrhyn Sant Gofan yn Sir Benfro.
Cafodd y dyn 23 oed o Sir Gaerloyw ei drin am anafiadau i'w belfis, coes a'i frest wedi iddo lithro a dod yn rhannol rydd o'i harnais diogelwch tua 6.45pm ddydd Mawrth.
Dywedodd gwylwyr y Glannau Aberdaugleddau fod timau achub o Benrhyn Sant Gofan, Dinbych-y-Pysgod a Maenorbŷr wedi eu hanfon i helpu'r dyn cyn i'r hofrennydd gyrraedd.
Cafodd y dyn ei gludo i Ysbyty Treforys yn Abertawe.
Rhybuddion
Does dim gwybodaeth am ei gyflwr.
Dywedodd llefarydd ar ran Gwylwyr y Glannau fod y dyn o Wootton-under-Edge, yn dringo gyda ffrind ger Penrhyn Sant Gofan.
"Llithrodd y dyn a daeth dau ddarn o'i gyfarpar diogelwch yn rhydd ond fe gafodd ei ddal gan y trydydd darn tan iddo daro'r creigiau."
Daw'r achub wedi rhybuddion gan Wylwyr y Glannau ynghylch llanw a cherhyntau wedi i dad a'i dri phlentyn gael eu hachub ym Mhenrhyn Gŵyr.