Bara wedi ei bobi
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Pryder am 100 o swyddi

14 Awst 2012 Diweddarwyd 09:42 BST

Mae 'na bryder am ddyfodol 100 o swyddi mewn becws yn y Bala.

Mae'n debyg fod gweithwyr Cake Crew wedi cyrraedd y gwaith ddydd Llun a gweld bod y gatiau wedi eu cau.

Yn ôl Aelod Seneddol Plaid Cymru dros Ddwyfor Meirionydd, Elfyn Llwyd, mae sefyllfa Cake Crew yn ymwneud ag anghydfod rhwng y cwmni a'u landlordiaid Baker Tilly.

Ychwanegodd ei fod yn obeithiol y bydd y sefyllfa wedi'i datrys o fewn yr oriau nesa'.

Nia Thomas fu'n holi Elfyn Llwyd ar y Post Cynta' fore Mawrth.