BBC Cymru Fyw

Gobaith i Donaldson yn America

Published
image copyrightGetty Images
image captionEnillodd Jamie Donaldson Bencampwriaeth Agored Iwerddon yn gynharach eleni

Bydd Jamie Donaldson yn dechrau ei drydedd rownd ym Mhencampwriaeth PGA America ddydd Sadwrn yn gydradd bumed.

Roedd y Cymro yn ffodus ddydd Gwener i chwarae ei ail rownd pan oedd y tywydd ychydig yn fwy ffafriol. Fe gafodd rownd o 73 (+1) i'w adael ddwy ergyd yn well na'r safon ac yn gydradd 15fed.

Ond wrth i weddill y chwaraewyr ei ddilyn ar gwrs Kiawah Island, fe waethygodd y tywydd a'r sgorio, ac fe symudodd pencampwr agored Iwerddon i fyny'r sgorfwrdd.

Mae'r tywydd ddydd Sadwrn yn llawer gwell, ac eisoes mae rhai wedi sgorio'n dda.

Mae Donaldson yn mwynhau ei dymor gorau erioed fel golffiwr proffesiynnol, a dyma'r ail dro iddo gystadlu yn America.

=1. Carl Pettersson (Sweden): -4

=1. Tiger Woods (UDA): -4

=1. Vijay Singh (Fiji): -4

4. Ian Poulter (Lloegr): -3

=5. Rory McIlroy (Gogledd Iwerddon): -2

=5. Jamie Donaldson (Cymru): -2

=5. Steve Stricker (UDA): -2

Straeon perthnasol

  • Jamie Donaldson yn ennill Pencampwriaeth Agored Iwerddon