Wrecsam 3-1 Woking

Image copyright Other

Wrecsam 3-1 Woking

Fe gafodd Wrecsam ddechrau gwych i'w tymor yn Uwchgynghrair Blue Square Bet gyda buddugoliaeth yn erbyn Woking ar y Cae Ras.

Dechreuodd Wrecsam y gêm gyda'u dau flaenwr newydd, Brett Ormerod a Robert Ogleby ac fe lwyddodd y ddau i greu argraff.

Yn wir Ogleby sgoriodd y gyntaf i'r tîm cartref wedi 17 o funudau pan daniodd ergyd ardderchog i gornel ucha'r rhwyd yn dilyn pas gan Neil Ashton.

Roedd Wrecsam yn feistri ar yr hanner cyntaf, ac mae'r ystadegau'n dangos na chafodd Woking ergyd at gôl Wrecsam o gwbl yn yr hanner.

Cyn yr egwyl, daeth cadarnhad o'r reolaeth pan rwydodd Dean Keates ail gôl Wrecsam gyda Brett Ormerod, a chwaraeodd yn yr Uwchgynghrair gyda Blackpool ddwy flynedd yn ôl, yn creu'r cyfle iddo.

Wedi'r egwyl roedd pethau'n wahanol iawn wrth i'r ymwelwyr ddod i mewn i'r gêm.

Daeth Bradley Bubb i'r maes fel eilydd i Woking wedi 62 munud, ac o fewn tri munud roedd wedi sgorio - ergyd isel o bas Aaron Howe i'w gwneud hi'n 2-1.

Fe sbarduodd hynny ymateb gan dîm Andy Morrell, ac wedi 73 munud roedd Wrecsam wedi adfer eu mantais pan beniodd Mark Creighton i gefn y rhwyd o chwe llath i'w gwneud hi'n 3-1.

Dyna fel arhosodd hi i roi dechrau gwych i'r tymor i Wrecsam yn dilyn y siom o fethu ag esgyn i'r gynghrair y tymor diwethaf. Dim ond 45 gêm sy'n weddill!

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.