Lluniau Eisteddfod Genedlaethol: Dydd Sadwrn Awst 11
- Cyhoeddwyd

Roedd cynulleidfa dda wedi mynd i wylio cystadlaethau y corau meibion yn y Pafiliwn yn ystod y dydd

Mae modd mynd i fyd arall drwy arddangosfa Dr Who ym mhabell BBC Cymru ar y Maes
Iestyn, Sioned a Bryn o Hacio’r Iaith yn recordio podlediad Haciaith ym mhabell Cefnlen
'Anelu at Newid' yw her pêl-droed stondin Gwalia
Ar stondin Cadw ar y Maes bu cyfle i blant gloddio am drysorau yn y tywod a darganfod ychydig o hanes
Gwneud hufen iâ gyda nitrogen hylifol ar stondin y Coleg Cymraeg Cenedlaethol
Ian Rowlands, Gwion Hallam, Peredur Lynch a Siân Melangell Dafydd yn trin a thrafod cynnych llenyddol Prifwyl 2012 yn y Babell Lên
Roedd yr haul yn gwenu ar y Maes a'r pafiliwn pinc yn edrych ar ei orau gyda'r baneri'n cyhwfan uwchben
Mae'r diwedd yn y golwg i Elfed Roberts, Prif Weithredwr yr Eisteddfod, ar ddiwrnod ola'r ŵyl wrth iddo edrych ymlaen at Sir Ddinbych y flwyddyn nesa'
Bu Maz a Tamar yn gwerthu mefus a hufen yn ystod yr wythnos
Bu Ifor ap Glyn yn cynnal cwis Llên ar y Sgrin yn Y Babell Lên ar Faes yr Eisteddfod
Joby Newson, Simon Clode a Siân James yn golygu clipiau fideos y cyhoedd yn y Lle Celf ar gyfer prosiect The Space
Eleni yw blwyddyn olaf Huw Llywelyn Davies yn cyflwyno rhaglenni teledu o'r Eisteddfod Genedlaethol ar ôl 33 mlynedd
Cyngerdd Cinio Tŷ Gwerin gyda Danny Kilbride a Gwenan Gibbard
Sam a Derek o Gôr Meibion Cas-Gwent oedd yn cystadlu yn y Pafiliwn yn ystod y dydd
Catsgam oedd un o'r bandiau a fu'n diddori torf o bobl ar lwyfan perfformio'r Maes
Rhun ap Iorwerth yn cyfweld â’r Archdderwydd, T James Jones, ar gyfer S4C
Y cyn-Brif Weinidog, Rhodri Morgan, yn cyhoeddi enw enillydd 'Dewis y Bobl' - sef Alex Duncan
Dyma waith Alex Duncan, enillydd 'Dewis y Bobl', sef Cildraeth
Arddangosfa goginio ym mhabell Cymru Y Gwir Flas gyda Nerys Howell
Torf o bobl yn mwynhau'r haul ar ddiwrnod olaf Eisteddfod 2012