Lluniau Eisteddfod Genedlaethol: Dydd Gwener Awst 10

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunCriw Caerdydd oedd yn cystadlu yng nghystadleuaeth y Parti Cerdd Dant hyd at 20 mewn nifer
disgrifiad o’r llunTorf o bobl yn gwylio aelodau newydd yn cael eu hurddo i'r Orsedd ar fore Gwener
disgrifiad o’r llunCai a Tom yn cael hoe dros ginio ar ôl bore prysur o waith
disgrifiad o’r llunRobin McBride, neu Robin o Fôn, ar raglen Dafydd a Caryl BBC Radio Cymru fore Gwener
disgrifiad o’r llunGeraint Scott yn helpu i hebrwng pobl yn ei 'gar' bach
disgrifiad o’r llunDaw Laura Lewis John o dref Portishead yng Ngwlad yr Haf yn Lloegr. Mae hi wedi dysgu Cymraeg ac yn stiwardio ar faes y Steddfod wythnos yma.
disgrifiad o’r llunHuw Stephens, yn ei sbectol haul, yn mwynhau'r tywydd braf prynhawn ddydd Gwener
disgrifiad o’r llunGronw ab Islwyn a Maura Matthews o Tenovus sy’n codi ymwybyddiaeth am gancr y croen ac yn dosbarthu eli haul am ddim ar faes y Steddfod
disgrifiad o’r llunCwmni Dawns Werin Caerdydd yng nghefn llwyfan y Pafiliwn cyn cystadlu