Pledio'n euog i lofruddio a threisio gwraig yn Sir Gâr

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Irene Lawless yn byw ar ei phen ei hun yn Llanllwni

Mae dyn wedi pledio'n euog i lofruddio a threisio gwraig 67 oed yn Sir Gaerfyrddin.

Dywedodd Heddlu Dyfed-Powys fod Martin Jackson, 26 oed ac yn wreiddiol o Gaint, wedi pledio'n euog yn Llys y Goron Abertawe.

Cafodd yr achos ei ohirio a bydd dyddiad yn cael ei bennu ar gyfer dedfrydu.

Cafwyd hyd i Irene Lawless yn ei chartref yn Llanllwni ger Llambed ddydd Llun, Ionawr 23.

Cafodd Jackson ei arestio yng Nghaint ym mis Ionawr.

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol