Cadw'r iaith yn hyblyg er mwyn Cymreigio gwyddoniaeth
- Cyhoeddwyd
Dr John S. Davies o Drelech, Sir Gaerfyrddin dderbyniodd Medal Gwyddoniaeth a Thechnoleg 2012.
Mae Dr Davies wedi bod yn ymwneud â Phanel Gwyddoniaeth a Thechnoleg yr Eisteddfod ers blynyddoedd.
Dywedodd ei fod yn falch iawn am y modd y mae'r Brifwyl wedi cofleidio Gwyddoniaeth a Thechnoleg fel rhan o ddiwylliant y Gymru fodern.
"Mae'n anrhydedd fawr i dderbyn y Fedal," meddai.
"Dwi wedi bod yn un o griw o bobl sydd wedi bod yn ymgyrchu i gadw'r iaith Gymraeg yn hyblyg er mwyn i ni Gymreigio gwyddoniaeth a thechnoleg."
Dywedodd ei fod yn gobeithio y bydd y Coleg Cymraeg yn hybu gwyddoniaeth drwy'r iaith "ond yr unig gwestiwn sydd gen i yw bod angen pobl hyderus yn y Gymraeg gyntaf i fod yn hyderus i wneud y wyddoniaeth hefyd.
"Mae gwyddoniaeth yn galed mewn unrhyw iaith ond i'w wneud drwy gyfrwng eich ail iaith...
"Ond mae 'na ddigon o eirfa a gwyddoniaeth drwy'r Gymraeg."
Mae Dr Davies a raddiodd o Brifysgol Abertawe ac a fu'n gymrawd ymchwil ym Massachusetts, yn arbenigwr ar Gemeg Organig,
Bu'n gweithio yn y Brifysgol yn Abertawe cyn gorffen yno fel Uwch-Ddarlithydd yn 2007.