Hofrennydd yn achub 14 o bobl o Gader Idris
- Cyhoeddwyd

Achubodd hofrennydd ddau deulu, hynny yw tri oedolyn ac 11 o blant, ar Gader Idris nos Fercher.
Yn ôl Tîm Achub Aberdyfi, roedd y grŵp yn "amhrofiadol a heb y cyfarpar cywir" i ddringo'r mynydd yn Ne Gwynedd.
Chafodd neb ei anafu.
Roedd y ddau deulu o Fanceinion ar wyliau yn yr ardal ac fe gysyllton nhw â'r heddlu ar ôl mynd i drafferthion.
Dywedodd Dave Williams o'r tîm achub: "Roedden nhw wedi penderfynu cerdded i gopa Cader Idris ond roedden nhw yn dal ar lethrau'r mynydd erbyn iddi dywyllu am 10pm.
"Cafodd hofrennydd o Ganolfan Awyrlu'r Fali ei alw a'u cludo i Ddolgellau ... roedden nhw wedi cyrraedd uchder o 2,500 o droedfeddi.
"Doedden nhw ddim yn gerddwyr profiadol, doedd dim digon o ddillad, dim digon o dortshis a doedd dim bwyd na dŵr ar ôl.
"Fe ddylai pobl ofyn yn lleol am gyngor cyn dechrau mynd am dro oherwydd fe fyddai wedi cymryd oesoedd iddyn nhw gerdded i lawr o'r mynydd."