Menyw yn cael ei tharo gan drên

Mae'r Heddlu Trafnidiaeth yn ymchwilio i farwolaeth menyw a gafodd ei tharo gan drên yn Y Fflint.

Cafodd yr heddlu eu galw am 5.03am ddydd Mercher ac nid yw'r farwolaeth yn cael ei hystyried yn amheus.

Roedd y trên wedi gadael Caer am 4.28am ac yn teithio i Gyffordd Llandudno.

Cafodd y lein ei chau ond fe'i hail-agorwyd am 7.05am.