Cynnig ar record y byd

Tom Bestwick Image copyright Blind Veterans
Image caption Mae angen rhedeg yn gynt nag wyth munud wyth eiliad i dorri'r record.

Bydd ras anarferol yn cael ei chynnal yn Llandudno gyda'r bwriad o dorri record y byd a chodi arian tuag elusen cyn filwyr.

Y nod yw curo record y byd wyth munud wyth eiliad mewn ras wy a llwy dros bellter o filltir.

Bydd yr arian sy'n cael ei godi yn mynd tuag at elusen sy'n cynorthwyo cyn filwyr sydd wedi colli eu golwg.

Y dyn wnaeth osod y record bresennol yw Ashrita Ruman o'r Unol Daleithiau.

Bydd y cynnig ar osod record newydd yn cael ei lwyfannu ar bromenâd Llandudno am 9.30am ddydd Mercher.

Y tîm fydd yn ceisio torri'r record yw Tom Bestwick a Terrie Bolderson o Lemington Spa, a Niki Green o'r elusen Blind Veterans UK.

Dywedodd Tom Bestwick: "Rwy'n hoff o redeg, nid o reidrwydd y ras wy a llwy - a gan ei fod yn codi arian at achos da roedd o'n gyfle rhy dda i'w golli."

Dywedodd y byddai aelodau'r tîm yn cystadlu yn erbyn ei gilydd mewn ymdrech i dorri'r record.

"Dyw rhedeg gydag wy a llwy ddim yn hawdd," meddai.

"Mae cadw'r breichiau i fyny am filltir yn ddigon anodd, yna mae angen sicrhau nad yw'r un o'r wyau yn syrthio."

Ychwanegodd fod y tri wedi rhedeg milltir yn gynt nag wyth munud wyth eiliad, ond roedd hynny heb lwy ac wy.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.