Rhybudd wedi brathiad gan wiber
- Cyhoeddwyd

Mae achubwyr y gwasanaeth bad achub yng Ngheredigion wedi cyhoeddi rhybudd brynhawn Sadwrn wedi i ddyn gael ei frathu gan neidr wenwynig ar draeth Borth.
Roedd y dyn 20 oed ar wyliau yn yr ardal pan welodd y wiber yn y twyni tywod rhyw bedair milltir o uned achub yr RNLI.
Gafaelodd ynddi a chafodd ei frathu ar ei law, ac fe gafodd ei gludo i'r ganolfan.
Dechreuodd ei gyflwr waethygu, gyda'i law yn chwyddo'n ddrwg. Galwyd ambiwlans yn syth, ac fe gludwyd y dyn i'r ysbyty.
Dywedodd un o uwch swyddogion yr RNLI, Tomi Turner, fod nifer o nadredd wedi cael eu gweld ger y traeth, ac mae am i bobl fod yn wyliadwrus a pheidio â chyffwrdd ynddynt.
"Mae'n well gadael llonydd iddyn nhw," meddai.
"Peidiwch gafael mewn neidr, ond soniwch wrth y timau achub RNLI amdanyn nhw.
"Nid yw brathiad gan wiber fel arfer yn angheuol, ond mae'n boenus ac yn gallu arwain at symptomau amhleserus fel y gwelodd y dyn yma heddiw.
"Nid ydym am weld hyn yn digwydd eto - rydym am i bobl gael diwrnod pleserus a diogel o wyliau ar lan y môr."