'Byddwch yn barod am law trwm,' medd Asintaeth yr Amgylchedd

Flooding in Talybont Image copyright Sam Ebenezer
Image caption Roedd llifogydd yn Nhalybont, Ceredigion, ym mis Mehefin

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn cynghori pobl i fod yn barod am law trwm yn y rhan fwyaf o'r wlad ddydd Gwener a gweddill y penwythnos.

Disgwylir glaw trwm yn y gorllewin a'r gogledd yn ystod prynhawn a nos Wener.

Yn ôl yr asiantaeth, fe allai hyd at 30mm o law ddisgyn mewn cyfnod byr ar draws y rhan fwyaf o Gymru a gallai hyn arwain at lifogydd lleol oherwydd draeniau'n gorlifo a dŵr ar wyneb y ffyrdd.

Er hynny, nid yw'r asiantaeth yn disgwyl i lefelau afonydd godi'n sylweddol ond fe fyddan nhw'n dai i fonitro'r sefyllfa dros y penwythnos.

'Problemau'

Dylai gyrwyr fod yn ofalus oherwydd gallai cyflwr ffyrdd fod yn beryglus, yn ôl yr asiantaeth.

Dywedodd llefarydd: "Mae'r tywydd yn ddiweddar yn golygu nad yw'r tir yn llawn dŵr ac mae lefelau afonydd Cymru yr hyn yr ydym yn ei ddisgwyl yr adeg hon o'r flwyddyn.

"Ond rydym yn disgwyl glaw trwm i ddisgyn allai achosi problemau.

"Dylai pobl sy'n teithio i'r Eisteddfod Genedlaethol ym Mro Morgannwg ac yn gwylio'r gêm bêl-droed yn Stadiwm y Mileniwm yng Nghaerdydd fod yn ofalus wrth yrru a chaniatáu mwy o amser teithio.

Cyngor yr asiantaeth yw y dylai pobl wrando ar ddarllediadau tywydd am y wybodaeth ddiweddara'.

Gall pobl hefyd ymweld â gwefan yr am wybodaeth neu ffonio'r llinell gymorth arbennig ar 0845 988 1188.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.