Ysgrifennydd Barddas yn olrhain hanes englynion y steddfodau

Dafydd Islwyn ar faes y Brifwyl
Image caption Dafydd Islwyn sydd wedi bod fel ditectif yn canfod y beirdd tu ôl i'r englynion

Collwr sâl pigog oedd Eifion Wyn pan oedd hi'n dod yn fater o gystadlu.

Er iddo ganu "Gwna fi yn addfwyn fel Tydi" yn ei emyn enwog, yr oedd ymhell o fod yn addfwyn os tybiai iddo gael cam mewn cystadleuaeth.

Dyna'r casgliad y daeth Dafydd Islwyn iddo wedi ymchwil manwl i gystadleuaeth yr englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol ar gyfer ei gyfrol newydd, Englynion y Genedlaethol 1900-1999 sydd ar werth ar Faes yr Eisteddfod Genedlaethol.

Mae'r gyfrol gan ysgrifennydd poblogaidd Cymdeithas Barddas yn ddilyniant i'r gyfrol 100 o Englynion a gyhoeddwyd ganddo yn 2009.

Mae Dafydd yn dilyn yn ei lyfr, pob un o gystadlaethau'r englyn yn yr Eisteddfod Genedlaethol yn ystod y ganrif ddiwethaf gan sôn am yr hanes y tu ôl i'r rhai a fethodd â dod i'r brig yn ogystal â'r enillwyr.

Bu ambell i englyn yn destun cryn anghydweld, nid yn unig ymhlith y beirniaid swyddogol, ond wedyn yn y wasg rhwng y rhai answyddogol!

Y Telynegwr Tyneraf

Image caption Mae'r gyfrol ar werth ar y Maes

"Daeth 'na dipyn o 'cythraul barddoni' i'r fei," meddai am ei waith ymchwil a olygai gribinio trwy bapurau newydd, cyfnodolion a chasgliadau barddonol yn ogystal â'r cyfrolau Cyfansoddiadau a Beirniadaethau blynyddol.

Bydd yn sôn am ei waith mewn sesiwn arbennig yn y Babell Lên am 3.30pm ddydd Llun.

Bu sawl peth â'i synnodd yn ystod ei ymchwil - gan gynnwys agwedd un o'n telynegwyr tyneraf, Eifion Wyn, at gystadlu.

"Yr oedd o'n gystadleuwr amlwg yn ystod chwarter cyntaf y ganrif ddiwethaf ac yn un piwis a chroendenau ar y naw pan fyddai o'n colli.

"Yn llythyru yn y wasg yn cwyno ei fod wedi cael cam ac ati ac ymosod ar y beirniad.

"Mi ges i fy synnu fod awdur y geiriau 'Gwna fi yn addfwyn fel Tydi' a 'Gwna fi yn hoff o wrando cwyn a hoff o faddau bai' yn medru bod mor biwis a chroendenau.

"Ond doedd fiw i neb ei guro. Doedd y geiriau yn ei emyn 'Dod ar fy mhen' ddim yn berthnasol o gwbwl iddo fo pan oedd hi'n dod i gystadlu," meddai.

Ditectif

Darganfu i nifer o feirdd blaenllaw fethu â dod i'r brig o bryd i'w gilydd gan gynnwys T Llew Jones, Alun Cilie, R J Rowlands Y Bala a Monallt a fu'n cystadlu cryn dipyn.

Yna, enillodd William Morris ar yr englyn cyn iddo ddod yn Brifardd ac yn Archdderwydd.

"Yn wir, mae'n rhaid dweud iddo wneud tipyn o argraff arnaf i fel englynwr," ychwanegodd Dafydd.

Golygai dod o hyd i enw awdur englyn anfuddugol gryn waith ditectif iddo.

"Yr oedd dipyn bach fel chwilio am ddarnau jigsô i greu darlun cyflawn," meddai.

"Ac yr ydw i wedi methu dod o hyd i ambell i enw a darganfod pwy oedd ambell un gwaetha'r modd," meddai.

"Ond ar y llaw arall mi ddois ar draws un enillydd nad oeddwn yn gwybod ei fod yn englynwr o gwbl, William Owen a enillodd y Fedal Ryddiaith yn y 1960au," meddai.

Ychwanegodd bod rhai enillwyr hefyd, er ei fod yn gwybod eu henwau nad yw wedi medru dod o hyd i'w hanes - ond yn gobeithio y bydd yn cael ei oleuo ar faes y 'Steddfod yn Llandŵ yr wythnos hon.

Ymhlith yr hysbys anhysbys hyn y mae Eldon a enillodd gydag englyn i'r Groes Goch yn Eisteddfod Y Barri 1920.

"Y cyfan wn i amdano yw ei fod yn J Jones o Lundain!"

Yn awr â'r 'Steddfod yn ôl yn 'Y Fro', tybed a ddaw'r darn hwnnw o'r jigsô i'r fei?