Adolygiad o farciau melyn dadleuol ar balmentydd Rhuthun

Llinellau a marciau melyn ar stryd yn Rhuthun
Image caption Cyngor sir: 'Rydyn ni wedi cytuno i gynnal arolwg ar unwaith o hyd a lled y marciau'

Mae cyngor sir wedi cytuno i gynnal adolygiad wedi cwynion am farciau melyn ar balmentydd Rhuthun.

Mae Cyngor Sir Ddinbych wedi derbyn nifer o sylwadau negyddol oddi wrth breswylwyr a pherchnogion busnes.

Effaith weledol marciau melyn dim llwytho sy'n corddi'r dyfroedd.

Mae rhai hefyd wedi ysgrifennu eu sylwadau ar y safle rhwydweithio cymdeithasol Facebook gydag un yn dweud eu bod wedi "difetha" golwg y dref hanesyddol.

Cafodd llinellau dwbl melyn eu paentio ar rai ffyrdd yng nghanol y dref ddydd Sul yn ogystal â marciau melyn ar y palmentydd.

Yn wreiddiol, dywedodd y cyngor fod y marciau ar y palmentydd yn dangos bod llwytho a dadlwytho'n cael eu gwahardd.

'Maint ac amlder'

Mewn datganiad ddydd Mercher dywedodd y cyngor: "Yn anffodus, mae maint ac amlder y marciau yn fater rheoliadau Prydeinig ac ni allwn eu hamrywio.

"Mae'r cyfyngiadau llwytho/dadlwytho wedi cael eu cyflwyno ar nifer o strydoedd ond mae'r adrannau hiraf ar Stryd y Ffynnon, Stryd y Prior, Stryd y Castell a Ffordd Wynnstay."

Ond ar ôl i'r marciau arwain at sylwadau negyddol dywedodd y cyngor ddydd Gwener: "Wedi ymgynghori â'r cynghorwyr sir lleol, rydyn ni wedi cytuno i gynnal arolwg ar unwaith o hyd a lled y marciau a ddarparwyd".

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.