131,000 yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos

Yn ôl y corff sy'n amcangyfrif nifer y gwrandawyr radio, mae tua 131,000 o bobl yn gwrando ar Radio Cymru bob wythnos.
Dywed RAJAR fod hyn 15,000 yn is na'r un adeg y llynedd a gostyngiad o 5,000 ar y chwarter blaenorol.
Mae'r ystadegau diweddara'n awgrymu bod y nifer sy'n gwrando ar Radio Wales wedi gostwng 20,000 yn ystod y flwyddyn ddiwethaf.
Ar gyfartaledd mae 18% o boblogaeth Cymru yn gwrando ar Radio Wales a 5% ar Radio Cymru.