Adroddiad addysg yn 'hoelen arall yn arch Cyngor Sir Ynys Môn'
- Cyhoeddwyd
Mae cyn-arweinydd Cyngor Sir Ynys Môn wedi dweud fod yr adroddiad beirniadol o gyfundrefn addysg y sir gan yr arolygydd Estyn yn "hoelen arall yn arch y cyngor sir".
Honnodd Clive McGregor wrth y Post Cyntaf hefyd bod diffyg democratiaeth ar yr ynys wedi i Lywodraeth Cymru benodi comisiynwyr i oruchwylio'r cyngor bron i 18 mis yn ôl.
Mewn adroddiad gafodd ei gyhoeddi ddydd Mawrth, dywedodd Estyn fod safonau gwasanaethau addysg yr ynys "yn anfoddhaol".
Dywed yr adroddiad y dylai Llywodraeth Cymru ymyrryd yn uniongyrchol yn yr adran addysg.
Cyhoeddodd y Gweinidog Addysg, Leighton Andrews, a'r Gweinidog Llywodraeth Leol, Carl Sargeant, y bydd Bwrdd Adferiad yn cael ei sefydlu o fewn y cyngor.
Mae Mr McGregor yn cydnabod bod 'na wendidau ond dywedodd hefyd petai cynghorwyr wrth y llyw y byddai'n disgwyl i un neu ddau ymddiswyddo cymaint yw difrifoldeb yr adroddiad.
'Gwaith yn ormod'
Fe wnaeth Mr McGregor ymddiswyddo fel arweinydd o ganlyniad i ymddygiad rhai o'i gyd-gynghorwyr.
Fe wnaeth Mr Sargeant, benodi comisiynwyr i reoli'r cyngor a cheisio rhoi trefn yno yn 2011.
Mae Mr McGregor yn honni bod y dasg o weddnewid y cyngor "yn ormod" i'r comisiynwyr.
"Mae 'na nifer o ddigwyddiadau lle mae pŵer wedi ei gymryd gan aelodau etholedig.
"Mae 'na deimlad fod Caerdydd wedi diddymu pŵer etholedig dros flwyddyn a chwarter yn ôl a nawr cael yr adroddiad yma.
"Does dim modd cuddio oddi wrth yr adroddiad, ond hefyd mae'n hawdd gofyn be sydd wedi bod yn digwydd pan nad oedd gan aelodau etholedig bŵer.
"Doedd gan y cyngor ddim pwyllgor gwaith, y rôl yna yn cael ei wneud gan y comisiynwyr, ac efallai bod y gwaith wedi bod yn ormod iddyn nhw.
"Petai cynghorwyr yn dal efo'r pŵer heddiw fe fyddwn i'n disgwyl i un neu ddau ymddiswyddo."
Straeon perthnasol
- 31 Gorffennaf 2012
- 31 Gorffennaf 2012
- 22 Gorffennaf 2011
- 22 Mawrth 2011
- 7 Chwefror 2012
- 18 Gorffennaf 2012
- 21 Mehefin 2012
- 14 Mawrth 2012
- 12 Awst 2011
- 9 Mai 2012
- 23 Gorffennaf 2012