Cyngor i oedi cyn cyflwyno ysgol ardal
- Published
Mae Cabinet Cyngor Ceredigion wedi penderfynu gohirio cynllun i greu ysgol ardal newydd yng nghanol Ceredigion tan o leiaf yr Hydref.
Ym mis Ionawr eleni cymeradwyodd y cyngor y dylid cychwyn ymgynghoriad anffurfiol ynghylch creu ysgol ardal yng nghylch Llanwnnen, Llanwenog a Chwrtnewydd.
Byddai hynny'n golygu cau ysgolion Llanwnnen a Llanwenog a chreu ysgol ardal yng Nghwrtnewydd.
Ddydd Mawrth gofynnodd cyfarwyddwr addysg y sir, Eifion Evans, i'r cabinet oedi cyn gwneud unrhyw benderfyniadau pellach ynglŷn â'r cynllun tan fydd Ymgynghorydd Addysg Annibynnol wedi cwblhau adroddiad ynghylch rhaglen ad-drefnu ysgolion yng Ngheredigion.
Adolygiad
Cafodd yr argymhelliad ei gymeradwyo gan y cabinet wedi i arweinydd y cyngor, Ellen ap Gwynn, ofyn am adolygiad o'r strategaethau a'r polisïau cyfredol oedd yn gysylltiedig â'r rhaglen ad-drefnu ym mis Mehefin eleni.
Ym mis Hydref y llynedd roedd tua 40 o blant yn mynychu Ysgol Llanwnnen a thua 36 o blant ar gofrestr Ysgol Llanwenog.
Rhif trothwy'r cyngor cyn iddyn nhw gymryd camau i gau ysgolion cynradd yw 20 disgybl.
Dydd Mawrth penderfynodd y cabinet gefnogi cais Mr Evans i adael y sefyllfa fel y mae yn y tair ysgol tan fydd yr adolygiad yn gyflawn.
Yn ôl yr adroddiad mae yna gyfalaf o £2.22 miliwn ar gyfer y cynllun i greu'r ysgol ardal i'w ariannu gan "dderbynebau cyfalaf a benthyca darbodus".
Straeon perthnasol
- Published
- 31 Gorffennaf 2012
- Published
- 26 Mawrth 2012
- Published
- 13 Hydref 2011