Lansio Porth i gefnogi lleisiau plant a phobl ifanc
- Cyhoeddwyd

Er ei fod wedi ei anelu at blant a phobl ifanc mae'r porth yn addas hefyd i ymarferwyr a gweithwyr proffesiynol
Mae yna safle we newydd fydd yn helpu plant a phobl ifanc i chwilio am gefnogaeth a chael dweud eu dweud am benderfyniadau sy'n effeithio arnyn nhw.
Cafodd y Porth Cyfranogiad ei ddylunio fel lle syml, difyr a deniadol i blant a phobl ifanc ei ddefnyddio a dod o hyd i gefnogaeth.
Ar ôl ymwled a'r safle bydd un clic yn eu cysylltu â'r gwasanaeth neu'r adnodd perthnasol yng Nghymru.
Er ei fod wedi ei anelu at blant a phobl ifanc mae'n addas hefyd i weithwyr proffesiynol.
Ariannwyd y Porth gan Lywodraeth Cymru.
Elusen Plant yng Nghymru fydd yn cynnal ac yn diweddaru'r deunydd.
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol