Cyhuddo dyn o lofruddio dyn yn Nhreboeth, Abertawe

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Heddlu De Cymru
Disgrifiad o’r llun, Cafwyd hyd i gorff David Gary Edwards nos Fercher

Mae ditectifs wedi cyhuddo dyn 33 oed o Bort Talbot o lofruddio dyn 48 oed yn Abertawe.

Cafodd heddlu arfog eu galw i fflat yn Villa Terrace yn Nhreboeth am 6.50pm nos Fercher.

Fe gafodd corff David Gary Edwards ei ddarganfod.

Mae'r dyn gerbron Ynadon Abertawe fore Sadwrn.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol