Gwrthdrawiad yn Llanboidy: Anafu tri

Heddlu Trafnidiaeth
Image caption Mae'r B4328 ynghau wrth i'r gwasanaethau brys ymchwilio.

Mae tri wedi eu hanafu wedi i lori daro trên.

Roedd y ddamwain yn Henllan Amgoed ger Yr Hendy-gwyn ar Daf.

Cafodd dwy injan dân eu hanfon ychydig cyn 4pm ac mae'r B4328 ynghau wrth i'r gwasanaethau brys ymchwilio.

Mae bysus yn cludo teithwyr rhwng Clunderwen a'r Hendy-gwyn ar Daf.

Ar yr un groesfan yn Rhagfyr 2011 roedd gwrthdrawiad rhwng trên a lori ag ôl-gerbyd.