Lladrad arfog mewn fferm ym Mhen Llŷn: Tri'n pledio'n euog
- Cyhoeddwyd

Yn Llys y Goron Yr Wyddgrug mae tri wedi pledio'n euog i gyhuddiad o ladrata a meddu ar ddryll gyda'r bwriad o ladrata.
Y tri yw Liam Roberts, 18 oed o Flaenau Ffestiniog, Luke Evans, 18 oed o Abererch, a Steven Evans, 19 oed o Flaenau Ffestiniog.
Er mai Steven Evans oedd y gyrrwr, roedd y tri wedi cynllunio'r lladrad.
Clywodd y llys fod dau ddiffynnydd wedi torri i mewn i gartre'r ffermwr o Ben Llŷn, William Ward-Jackson, 55 oed, yn Rhagfyr.
Curo
Ar ôl ei fygwth a'i guro cafodd arian parod, llyfr sieciau a dau ddryll eu dwyn.
Gadawodd y lladron cyn i un fynd yn ôl a saethu'r ffermwr yn ei goes.
Cafodd y tri eu cadw yn y ddalfa.
Dywedodd y Barnwr Niclas Parry y byddai'r tri'n cael eu dedfrydu y mis nesa'.
Clywodd y llys nad oedd y tri wedi troseddu o'r blaen.