Arddangosfa i gofio cystadleuydd Gemau Olympaidd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, Other
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Yr Arglwydd Tommy Howard de Walden yn byw yng Nghastell y Waun rhwng y ddau ryfel byd

Bydd arddangosfa yng Nghastell Y Waun yn edrych ar fywyd Yr Arglwydd Thomas Howard de Walden a fu'n byw yn y castell rhwng y ddau ryfel byd.

Bu'r Arglwydd de Walden yn gefnogwr brwdfrydig o sefydliadau diwylliannol Cymru yn ystod ei amser yno.

Bydd ei effaith ar Gymru, y diwylliannau a'r castell ei hun yn cael eu dathlu yn yr arddangosfa.

Roedd o hefyd yn gystadleuydd yng Ngemau Olympaidd cyntaf Prydain yn 1908.

Cymerodd ran mewn cystadleuaeth rasio cwch modur, yr unig un erioed y mae'r Gemau wedi ei chynnal.

"Mae'n anhygoel cymaint lwyddodd Yr Arglwydd de Walden ei wneud yn ystod ei fywyd," meddai Carolyn Latham, o Gastell Y Waun, ger Wrecsam.

'Gemau gwahanol'

"Roedd yn ymwneud gyda chymaint o bethau ac mae wedi bod yn gyffrous i ddysgu mwy am ei hanes Olympaidd wrth i'r Gemau cael eu cynnal ym Mhrydain unwaith eto."

Ffynhonnell y llun, National Trust
Disgrifiad o’r llun,
Roedd Yr Arglwydd de Walden wedi cystadlu yng ngemau Olympaidd 1908

Roedd Gemau Olympaidd 1908 yn wahanol iawn i gemau eleni.

Yn 1908 roedd y Gemau'n para am 188 diwrnod.

Mae'r Gemau modern yn para am 17 diwrnod.

Eleni bydd dros 10,000 o athletwyr yn cystadlu tra yn 1908 tua 2,000 oedd yn cymryd rhan, a dim ond 37 ohonyn nhw yn ferched.

Yn 2012 mae 204 gwlad â thimau yn y Gemau, i gymharu â 22 gwlad yn 1908.

Bydd yr arddangosfa am fywyd Yr Arglwydd de Waldon yn agor ym mis Medi.

Ymhlith y deunydd fydd yn rhan o'r arddangosfa bydd cadair Eisteddfodol, cleddyf Cymreig a llun gan y darlunydd Augustus John.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol