Dathliadau Olympaidd ym Mae Colwyn

Stadiwm Olympaidd Image copyright Reuters
Image caption Bydd seremoni agoriadol y Gemau Olympaidd yn cychwyn am 9pm ddydd Gwener

Gyda Seremoni Agoriadol y Gemau Olympaidd yn Llundain mae 'na ddiwrnod o ddathliadau Olympaidd yn Sir Conwy gyda cherddoriaeth ac adloniant yn rhad ac am ddim.

Mae Parc Eirias ym Mae Colwyn wedi ei ddynodi fel safle cymunedol ar gyfer y Gemau Olympaidd.

Ar gyfer y digwyddiad agoriadol bydd y parc yn cael ei rannu i wahanol ardaloedd fydd yn cynnwys sleid dŵr awyr agored a chwrs antur.

Gyda'r nos bydd cyngerdd gyda chôr Only Boys Aloud a ddaeth yn adnabyddus drwy raglen Britain's Got Talent.

Bydd stadiwm Parc Eirias yn cael ei addurno gyda baneri Olympaidd swyddogol a bydd y Seremoni Agoriadol yn Llundain yn cael ei dangos ar sgrin fawr yno.

Disgwylir cynulleidfa o 15,000 o bobl ym Mae Colwyn.

Bydd Mike Peters o'r grwpiau The Alarm a Big Country a Sophie Evans o gynhyrchiad Andrew Lloyd Webber o The Wizard of Oz hefyd yn perfformio yno.

Yn ogystal, bydd Côr Glanaethwy a'r mezzo soprano Sioned Terry yn perfformio.

Mae sioe "Access All Eirias" hefyd yn cynnwys cyngerdd ddydd Sadwrn gydag Olly Murs a Pixie Lott.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.