Apêl wedi damwain farwol ar yr A4059

Mae'r heddlu yn apelio am dystion wedi damwain car ddydd Iau ar yr A4059 rhwng Storey Arms a Hirwaun.

Un car oedd yn y ddamwain farwol tua 3pm.

Roedd car Ford Focus coch yn teithio tuag at Storey Arms pan adawodd y ffordd a throi drosodd.

Roedd y gyrrwr yn dod o ardal Aberhonddu.

Bu'r ffordd ar gau am oriau wrth i'r gwasanaethau brys ymchwilio.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth fe ddylai gysylltu gyda Heddlu Dyfed Powys ar 101 neu 0845 330 2000.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.