Adnabod corff dyn gafwyd hyd iddo yn Afon Llwyd

Cyhoeddwyd
ffynhonnell y llun, Hedldu Gwent
disgrifiad o’r llunDoedd neb wedi gweld Ronald Bowman ers iddo adael ysbyty ddiwedd mis Mehefin

Mae Heddlu Gwent wedi cadarnhau mai corff dyn fu ar goll ers bron i fis gafwyd hyd iddo mewn afon ddydd Sul.

Roedd arbenigwyr wedi cael eu defnyddio i chwilio am Ronald Bowman, 74 oed o Langstone, Casnewydd.

Roedd Mr Bowman yn ddiodde' o ddimensia.

Doedd neb wedi gweld Mr Bowman ers iddo adael Ysbyty Panteg, Griffithstown, Torfaen, am 5.45pm ddydd Gwener Mehefin 29.

Cafwyd hyd i'w gorff yn Afon Llwyd ger Croes-y-ceiliog, Cwmbrân.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol