Cynghorwyr Ynys Môn yn trafod cynlluniau tyrbinau gwynt
- Cyhoeddwyd

Mae Cyngor Ynys Môn yn trafod ail ddrafft ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch strategaeth cynllunio ar gyfer ffermydd gwynt.
Y Pwyllgor Craffu Amgylchedd a Gwasanaethau Technegol sy'n trafod drafft ddiwygiedig ar gyfer ynni gwynt ar y tir.
Mae cynghorwyr yn trafod y newidiadau i'r Canllawiau Cynllunio Atodol (CCA) am 2pm ddydd Iau yn Llangefni.
Eisoes mae nifer o brotestiadau wedi bod yn erbyn datblygu ffermydd gwynt ar yr ynys a chynnydd sylweddol mewn ceisiadau cynllunio.
Ym mis Mehefin roedd 300 yn protestio yn erbyn codi tyrbinau gwynt mawr.
300 troedfedd
Trefnwyd y brotest gan fudiad Ynys Môn yn Erbyn Tyrbinau Gwynt a hynny ar ffurf gorymdaith o amgylch pentref Llanddona.
Dywedodd y mudiad fod 57 o geisiadau cynllunio wedi cael eu cyflwyno i godi tyrbinau a bod llawer ohonyn nhw dros 300 troedfedd o uchder.
Ym mis Chwefror roedd 200 yn protestio yn Llangefni.
Mae'r protestwyr wedi dweud y bydd tyrbinau mawr (llawer dros 200 troedfedd a rhai dros 300 troedfedd) yn anharddu tirwedd yr ynys, ac yn creu sŵn a niweidio'r amgylchedd.
Yng nghyfarfod y pwyllgor craffu ym mis Ebrill cyflwynwyd adroddiad yn amlinellu prif bwyntiau ymateb y gwrthwynebwyr i ddrafft gyntaf y strategaeth.
Prif newidiadau
Ymysg y prif newidiadau i'r fersiwn ddrafft mae:
- Pwysleisio'r angen am y CCA oherwydd swm eu ceisiadau a'r agwedd gytbwys sydd ei hangen i ddelio â cheisiadau o'r fath;
- Adran newydd sy'n pwysleisio cymeriad yr ynys ac sy'n helpu egluro'r nifer o gyfyngiadau yn yr ardal;
- Rhoi mwy o eglurder am y gwahanol fathau o dyrbinau a'u categoreiddio rhwng micro, bychan, canolig a mawr.
Yn ôl yr adroddiad, os yw'r pwyllgor yn ystyried gosod trothwy uchder i ben llafn sydd yn is (e.e 15 metr i ben y llafn) bydd angen "gwaith dadansoddi sensitif" cyn yr ymarfer ymgynghori cyhoeddus er mwyn cyfiawnhau ffigwr o'r fath yn y CCA.
Fe allai gwaith o'r fath gymryd hyd at bedwar mis gyda'r canlyniadau'n cael eu cyhoeddi i'r pwyllgor craffu ym mis Rhagfyr eleni neu fis Ionawr 2013.
Mae'r adroddiad wedi argymell y pwyllgor i gymeradwyo bod drafft ddiwygiedig y CCA yn cael ei rhyddhau ar gyfer ymarfer ymgynghori cyhoeddus o wyth wythnos rhwng mis Awst a mis Hydref.
Straeon perthnasol
- 17 Mehefin 2012
- 17 Mai 2012
- 1 Chwefror 2012
- 27 Hydref 2011