Allie Young a Stephanie Davies
Nid oes modd chwarae darnau sain a fideo ar eich dyfais

Balchder tad am ddewrder ei ferch am achub ei ffrind

25 Gorffennaf 2012 Diweddarwyd 07:56 BST

Yn America, mae'r actor o Gymru, Christian Bale, wedi bod yn ymweld â rhai o'r bobl gafodd eu saethu mewn sinema oedd yn dangos ei ffilm ddiweddara: Batman: The Dark Knight Rises.

Cafodd 12 o bobl eu lladd a 58 arall eu hanafu gan ddyn arfog nos Wener.

Mae James Holmes bellach yn y ddalfa wedi ei gyhuddo o gyflawni'r gyflafan.

Mae straeon yr unigolion wnaeth oroesi'r digwyddiad hefyd yn dod i'r amlwg.

Un o'r rheiny yw Stephanie Davies. Roedd hi yn y sinema gyda ffrind pan ddechreuodd y saethu.

Bu ei thad Malcolm Davies, sy'n wreiddiol o Gilcennin yng Ngheredigion, yn son mwy am ddewrder ei ferch wrth David Grundy.