Damwain A44: Cyhoeddi enw'r fenyw 19 oed fu farw.

Mae'r heddlu wedi cyhoeddi enw'r fenyw 19 oed fu farw mewn damwain ar yr A44 ddydd Llun.

Y fenyw oedd Jessica Eaton-Furneaux o Raeadr Gwy.

Am 12.35pm roedd ei char mewn gwrthdrawiad â cherbyd arall ger Ysgol yr Eglwys yng Nghymru yn Nantmel rhwng yr A483 (Y Crwys) a'r A470 (Rhaeadr Gwy).

Roedd yr A44 ar gau i'r ddau gyfeiriad am gyfnod ac roedd hyn yn effeithio ar draffig rhwng Llanllieni a Rhaeadr Gwy.

Cafodd y ffordd ei hailagor am 8.40pm nos Lun.

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.