Cymry yw'r 'mwya' anfodlon' yn y DU

Pobl sy'n byw yng Nghymru yw'r mwyaf anfodlon yn y DU, yn ôl yr arolwg lles Prydeinig cynta' erioed.
Trigolion Torfaen yn y de oedd fwya' anhapus gyda'u bywydau o'u cymharu â phobl ar draws Cymru, Lloegr a'r Alban.
Roedd y Swyddfa Ystadegau Prydeinig wedi gofyn i bobl raddio pa mor fodlon oedden nhw, hynny yw rhwng dim a 10.
Yng Nghymru roedd pobl cefn gwlad yn hapusach na thrigolion hen ardaloedd diwydiannol.
Yn Nhorfaen roedd 32.8% wedi rhoi sgôr isel neu isel iawn (0-6), ychydig yn uwch na'r nifer ym Mlaenau Gwent (31.2%).
Yn y cyfamser, pobl yng Nghaerfaddon a Gogledd Ddwyrain Gwlad yr Haf oedd yn ymddangos fwya' bodlon a'u sgôr oedd 14.6%.
Diwydiannol
Yn ôl y Swyddfa Ystadegau, pobl sy'n briod, mewn gwaith ac sy'n berchen tŷ sydd fwya' tebygol o fod yn fodlon.
Ymgais yw'r arolwg i gyflwyno mesur arall ar gyfer perfformiad, yn lle Cynnyrch Mewnwladol Crynswth.
Awgrymodd yr arolwg fod pobl sy'n byw mewn cyn ardaloedd diwydiannol fel de Cymru yn debygol o fod yn llai hapus.
Yng Nghymru, yr ardaloedd mwyaf "bodlon" oedd Ceredigion (20.3%), Sir Benfro (20.5%) a Sir Fynwy (20.5%).
Roedd y cyfartaledd yng Nghymru yn 25.3%, o'i gymharu â 24.1% trwy'r DU.
Mewn categori arall, roedd hi'n ymddangos fod nifer uchel o bobl ym Mlaenau Gwent, Abertawe, Merthyr a Chastell-nedd Port Talbot yn bryderus.
Trigolion Ceredigion a Sir Fynwy, yn ôl yr arolwg, oedd y lleia' pryderus yng Nghymru.