Canolfan feddygol o ragoriaeth i bêl-droedwyr Cymru

Fe fydd canolfan rhagoriaeth feddygol cyntaf FIFA yn y DU yn agor yng Nghaerdydd.

Dywedodd Cymdeithas Bêl-Droed Cymru y bydd y ganolfan yn darparu amrywiaeth o wasanaethau meddygol i bêl-droedwyr o bob oed, gallu a rhyw ar daws Cymru.

Mae sefydlu'r ganolfan yn y brifddinas yn ganlyniad cydweithio rhwng Cymdeithas Bêl-Droed Cymru, Ysgol Feddygol Cymru ac Ysgol Chwaraeon Caerdydd ym Mhrifysgol Fetropolitan Caerdydd.

"Dyma enghraifft wych arall o'r adnoddau chwaraeon a meddygol gorau posib yn dod i Gymru," meddai Jonathan Ford, Prif Weithredwr Cymdeithas Bêl-Droed Cymru.

"Doedd hi ddim yn broses hawdd ac mae'n llwyddiant ysgubol i bawb sy'n rhan ohono."

Mae FIFA eisiau i chwaraewyr ar bob lefel a safon gael mynediad at arbenigwyr ac addysg o ran eu hiechyd.

Maen nhw hefyd yn awyddus i chwaraewyr sydd wedi eu hanafu gael y gofal gorau a'u hasesu wrth wella.

"Mae hyn yn bluen arall i Brifysgol Fetropolitan Caerdydd," meddai Andy Miles, Cyfarwyddwr Mentergarwch yn y brifysgol.

"Rydym yn falch iawn bod y sefydliad meddygol wedi derbyn cymeradwyaeth FIFA, dyma'r fraint fwya'."

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.