Achub dyn o'r môr yn Ynys Môn

Cafodd syrffiwr barcut ei achub gan bad achub wedi iddo dorri ei ddwy goes pan darodd greigiau oddi ar arfordir Ynys Môn.

Cafodd y dyn y credir ei fod yn ei bedwardegau ei gludo gan hofrennydd y Llu Awyr i Ysbyty Bangor.

Cafodd y dyn ei weld mewn "trafferthion difrifol" yn y môr ger Rhosneigr ac fe gafodd y bad achub ei anfon o Fae Trearddur.