Y Don Geltaidd: Ceisio agor y llifddorau i'r ifanc
- Cyhoeddwyd

Bydd cynllun i recriwtio rhagor o aelodau proffesiynol o'r diwydiant lletygarwch i'r diwydiant mordeithio, yn cael ei lansio'n swyddogol.
Mae cynllun Y Don Geltaidd yn bartneriaeth rhwng porthladdoedd Ynys Môn, Aberdaugleddau, Abertawe, Dulyn, Waterford a Corc mewn ymgais i ddatblygu mordeithio ar Fôr Iwerddon.
Mae gwaith wedi ei gwblhau gan y bartneriaeth wedi adnabod diffyg rhaglenni recriwtio i'r diwydiant mordeithio yng Nghymru ac Iwerddon.
Mae'r cynllun newydd yma'n ceisio codi proffil y diwydiant mordeithio fel gyrfa i bobl ifanc 21 oed neu hŷn.
'Creu gwaith'
Dywedodd Dylan Williams, Pennaeth Datblygu Economaidd Cyngor Sir Ynys Môn, sy'n rheoli cynllun Y Don Geltaidd, bod cwmniau mordeithio yn draddodiadol wedi targedu ardal Llundain.
"Tydi pobl ifanc Cymru ddim o reidrwydd yn gwybod am y cyfleoedd sydd ar gael yn y diwydiant.
"Fel rhan o'r cam nesaf o gynllun Y Don Geltaidd, rydym yn gobeithio rhedeg cynllun recriwtio yn targedu cwmnïau recriwtio sydd eisoes yn bodoli a chydweithio gyda hwy er mwyn hyrwyddo talent a sgiliau rhai sy'n dod o ardal cynllun Y Don Geltaidd."
Dywedodd y Gweinidog Busnes Edwina Hart, fydd yn lansio'r cynllun newydd ddydd Mawrth: "Mae'r diwydiant mordeithio yn cynnig llawer o botensial ar gyfer twristiaeth a chreu gwaith yng Nghymru.
"Rydym mewn lle da i wneud y mwyaf o botensial y farchnad hon, gyda'n arfordir prydferth, ein treftadaeth cyfoethog, ein diwylliant a'n hatyniadau.
"Bydd cynllun Y Don Geltaidd yn gwneud camau pwysig tuag at ddenu rhagor o ymwelwyr, gan roi hwb i fusnesau lleol a budd i'r economi ar y ddwy ochr o Fôr Iwerddon.
"Rwy'n gobeithio y bydd y lansiad heddiw yn annog pobl ifanc ar draws Gymru i ymuno â'r sector newydd cyffrous yma a chael profiad pum seren yn y diwydiant lletygarwch.
"Mae'n gyfle gwirioneddol i ddatblygu sgiliau newydd a chael eich hyfforddi gan y gorau yn y diwydiant."
Mae cynllun Y Don Geltaidd, sydd wedi ei ariannu gan gynllun Interreg 4a Cronfa Datblygu Rhanbarthol Ewropeaidd - ERDF, partneriaeth rhwng Cymru ac Iwerddon i hyrwyddo Môr Iwerddon fel cyrchfan mordeithio,yn ceisio wedi codi proffil y rhanbarth fel cyrchfan mordeithio.
Straeon perthnasol
- 11 Mai 2011