Yr actores Angharad Rees wedi marw

Angharad Rees
Image caption Roedd yn un o gymrodorion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru

Bu farw'r actores Angharad Rees yn 63 oed.

Fe gafodd ei geni yng Nghaerdydd.

Roedd yn fwyaf adnabyddus am ei rôl fel Demelza yng nghyfres ddrama'r BBC o'r 1970au, Poldark.

Bu farw o ganser yn ei chartref yn Llundain.

Roedd yn un o gymrodorion Coleg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru.

Mewn datganiad, dywedodd ei theulu eu bod yn "eithriadol o drist" ac y bydd "colled fawr" ar ei hôl.

"Bu farw Angharad yn dawel gyda'i theulu wrth ymyl ei gwely yn Llundain, ar ôl brwydr hir gyda chanser y pancreas", meddai'r datganiad.

Roedd Ms Rees yn briod a'r actor Christopher Cazenove, fu yn y gyfres Dynasty, am fwy nag 20 mlynedd ac roedd ganddyn nhw ddau fab, Linford a Rhys.

Image caption Robin Ellis fel Ross Poldark ac Angharad Rees fel Demelza Poldark

Bu farw'r hynaf, Linford, mewn damwain car ar yr M11 yn Essex yn 1999 yn 25 oed.

Yn 1994 cafodd Ms Rees ysgariad ac aeth yn ei blaen i briodi David McAlpine, o'r cwmni adeiladu, yn 2005.

Chwaraeodd Ms Rees ran Demelza yn Poldark, a ddarlledwyd yn gyntaf yn y DU rhwng 1975 a 1977.

Bu hefyd yn y ffilm Hands Of The Ripper, ac ar lwyfan bu yn A Winter's Tale, Richard II a Romeo and Juliet.