Carwyn Jones yn ymddiheuro i deulu bachgen
- Cyhoeddwyd
Mae'r Prif Weinidog, Carwyn Jones, wedi ymddiheuro'n gyhoeddus i deulu bachgen fu farw yn yr ysbyty 22 flynedd yn ôl o gyflwr oedd yn bosib ei drin.
Daeth yr ymddiheuriad wrth i Mr Jones gyhoeddi adroddiad i farwolaeth Robbie Powell, 10 oed o Ystradgynlais, yn Ysbyty Treforys.
Dywedodd y tad, William Powell, fod yr adroddiad yn siomedig ond ei fod yn croesawu ymateb y Prif Weinidog.
Ychwanegodd Mr Jones y byddai'n ysgrifennu at Heddlu Dyfed Powys yn codi cwestiynau am y modd y delion nhw â'r achos.
Achosion naturiol
Bu farw Robbie o glefyd Addison's yn 1990.
Mae prawf ar gael fyddai wedi adnabod y cyflwr prin ond ni chafodd y prawf ei wneud.
Yn 2004 roedd cwest wedi penderfynu ei fod wedi marw o achosion naturiol - ond bod esgeulustod wedi digwydd.
Roedd ei dad wedi ymgyrchu am ymchwiliad cyhoeddus, gan honni bod gwybodaeth wedi ei chelu.
Comisiynodd y Prif Weinidog ymchwiliad fel bod modd i'r Gwasanaeth Iechyd ddysgu gwersi.
Dywedodd Mr Jones fod teulu Robbie, er gwaetha' nifer o ymchwiliad, gan gynnwys gan yr heddlu, wedi "eu gadael i lawr droeon gan y system".
Mae'r adroddiad gafodd ei baratoi gan y bargyfreithiwr Nicholas Davies Jones yn "cyfiawnhau eu dicter," meddai Mr Jones wrth ACau.
'Methiannau'
"Er i Robbie farw yn 1990, ymhell cyn sefydlu'r Cynulliad, hoffwn ymddiheuro ar ran Llywodraeth Cymru i Mr a Mrs Powell am y methiannau yn y system arweiniodd at ei farwolaeth, ac am sawl eglurhad annigonol sydd wedi eu cynnig i'r teulu ers hynny," meddai'r Prif Weinidog.
Nid yw Llywodraeth Cymru yn medru ymchwilio i faterion yn ymwneud â'r heddlu na Gwasanaeth Erlyn y Goron.
Ond ychwanegodd Mr Jones: "Ar yr olwg gyntaf, mae'n ymddangos bod Heddlu Dyfed Powys yn 1996 wedi rhoi sicrwydd i bobl oedd yn destun eu hymchwiliad na fydden nhw'n cael eu herlyn.
"Mae hynny'n fater difrifol iawn ac yn un sy'n fy mhryderu.
"Byddaf yn ysgrifennu at yr heddlu i ofyn pam ei bod hi'n ymddangos fod pobl wedi cael cynnig imiwnedd rhag cael eu herlyn i bob pwrpas."
12 o argymhellion
Mae adroddiad dydd Mawrth yn gwneud 12 o argymhellion sy'n ymwneud gyda chyfathrebu er mwyn sicrhau dilyniant gofal, rheoli cofnodion meddygol a chyfathrebu gyda chleifion a'u teuluoedd.
Ar ôl cwrdd â'r Prif Weinidog, dywedodd Mr Powell: "Mae'r adroddiad yn siomedig iawn. Crafu'r wyneb y mae e.
"Roedd y cyfarfod â'r Prif Weinidog yn un positif iawn.
"Mae'n ymddangos ei fod yn derbyn rhai o'r elfennau difrifol yr wyf wedi ceisio tynnu sylw atyn nhw dros y ddwy flynedd diwethaf.
"Nid dyma ddiwedd y mater o bell ffordd."
'Dim sylw pellach'
Wrth ymateb, dywedodd llefarydd ar ran Heddlu Dyfed Powys:
"Rydym yn cydnabod y cyflwyniad gan y Prif Weinidog i Lywodraeth Cymru a'r ymddiheuriad a gynigiwyd ar ran Llywodraeth Cymru i deulu Robert Powell am y driniaeth a gafodd y teulu gan y Gwasanaeth Iechyd.
"Er bod yr adroddiad yn cyfeirio ar Wasanaeth erlyn y Goron a Heddlu Dyfed Powys, rydym yn nodi bod y Prif Weinidog yn derbyn nad yw o fewn maes gwaith yr ymchwiliad i drafod unrhyw ymchwiliadau i weithredoedd Gwasanaeth Erlyn y Goron na Heddlu Dyfed Powys.
"O dan yr amgylchiadau hynny nid yw'n briodol i ni wneud sylw pellach ar hyn o bryd heblaw i fynegi ein cydymdeimlad unwaith eto i Mr a Mrs Powell."
Straeon perthnasol
- 15 Ebrill 2010
- 30 Ebrill 2004
- 25 Chwefror 2009
- 12 Awst 2005
- 27 Ionawr 2004
- 8 Ebrill 2004