Beirniadu ffioedd tribiwnlysoedd

Cyhoeddwyd
Ffynhonnell y llun, BBC news grab
Disgrifiad o’r llun, Roedd Theo Huckle wedi gwrthynebu'r syniad yn ystod cyfnod ymgynghorol yn gynharach eleni

Mae prif ymgynghorydd cyfreithiol Llywodraeth Cymru wedi beirniadu'r penderfyniad i godi hyd at £1,200 ar bobl sy'n dwyn achosion gerbron tribiwnlysoedd cyflogaeth, gan ddeud y bydd yn rhwystro mynediad at gyfiawnder i bobl.

Dywedodd y Cwnsler Cyffredinol, Theo Huckle QC, y byddai'r newid gan lywodraeth y DU yn rhwystro nifer o bobl oedd ag achsion dilys.

Ar hyn o bryd does dim tal am ddod ag achos o flaen tribiwnlys.

Yn ôl gweinidog cyfiawnder y DU, Jonathan Djanogly, mae'n annheg disgwyl i'r trethdalwr dalu biliau am dribiwnlysoedd, sy'n costio dros £84 miliwn y flwyddyn.

Roedd Mr Huckle wedi gwrthwynebu'r cynlluniau yn gynharach eleni yn ystod proses ymgynghorol, ac fe ysgrifennodd ar yr Ysgrifennydd Cyfiawnder Ken Clarke.

Cafodd y penderfyniad i godi tal ei gyhoeddi ddydd Gwener, ac fe gafodd ei ddisgrifio fel "gwarthus" gan undebau llafur.

'Tanseilio cyfiawnder'

Mae grwpiau busnes wedi croesawu'r newid, ond roedden nhw'n cwyno y byddai llawer o bobl ddim yn gorfod talu o dany rheolau newydd.

Bydd achosion o gyflogau heb eu talu a thaliadau diswyddo yn costio ffi cychwynnol o £160, gyda thal ychwanegol o £230 os oes angen gwrandawiad, tra bod achosion o ddiswyddo ar gam, cwynion am wahaniaethu a hawlio cyflog cyfartal yn costio £250 i ddechrau gyda ffi o £950 am wrandawiad.

Dywedodd Mr Huckle: "Mae mynediad at gyfiawnder i bob dinesydd, hyd yn oed os yw eu hachsion yn amhoblogaidd neu beidio, yn rhan annatod o sustem ddemocrataidd y DU. Mae'r penderfyniad yma yn tanseilio'r egwyddor yna.

"Mae'r broses o fynd at lys cyfreithiol neu dribiwnlys yn anghynnes i'r mwyafrif o bobl. Mae meddwl gwneud hynny heb gefnogaeth gyfreithiol yn eithriadol o annymunol.

"Does dim amheuaeth y bydd gorfod talu ffioedd sylweddol o flaen llaw yn rhwystro nifer o bobl sydd achosion dilys, ac fe fyddan nhw felly yn methu â chael cyfiawnder."

Ond mynnodd gweinidog cyfiawnder y DU, Jonathan Djanogly, ei fod am i bobl dalu cyfraniad teg i'r sustem tribiwnlysoedd pan oedden nhw'n medru, ac y byddai hynny'n eu hannog i "chwilio am ffyrdd eraill" o ddatrys anghydfod.

"Nid yw'n deg i'r trethdalwr dalu'r bil cyfan o £84m y flwyddyn ar ran pobl sy'n chwyddo anghydfod yn y gweithle i dribiwnlys," meddai.

"Mae'n decach i bawb i geisio osgoi anghydfod hir sy'n niweidio busnesau a gweithwyr fel ei gilydd. Dyna pam yr ydym yn annog ffyrdd eraill fel cymodi."

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol