Llifogydd mewn tai ym Mhen Llŷn

Cyhoeddwyd
disgrifiad o’r llunAdroddiadau bod llifogydd ym Mhen Llyn

Mae'r adroddiadau cyntaf wedi cyrraedd am lifogydd yng ngogledd-orllewin Cymru ddydd Gwener.

Dywed Gwasanaeth Tân ac Achub Gogledd Cymru eu bod wedi derbyn galwadau i ddweud bod nifer o dai yn ardal Aberdaron wedi diodde' oherwydd llifogydd.

Ym Mhenrhos ger Pwllheli, mae trefnwyr gŵyl Wakestock wedi dweud eu bod yn gobeithio parhau gyda'r ŵyl dros y penwythnos er gwaethaf glaw trwm yn yr ardal fore Gwener.

Dywed y rhagolygon y bydd y tywydd yn gwella erbyn diwedd y dydd, ac mae'r trefnwyr yn rhybuddio pobl sy'n mynd yno i wisgo dillad addas.

Dywedodd y Gwasanaeth Tân eu bod mewn tŷ yn Sarn lle mae tair modfedd o ddŵr yn y tŷ, a throedfedd arall y tu allan.

Daeth galwadau hefyd gan berson oedrannus yn Llaniestyn oedd â dŵr yn y tŷ wedi i'r draeniau orlifo, ac mae'r gwasanaeth hefyd yn cynghori person yn Aberdaron ei hun wrth i lefel y dŵr godi yn agos i eiddo arall.

Dywedodd llefarydd ar ran y Gwasanaeth Tân eu bod yn cadw mewn cysylltiad gydag Asiantaeth yr Amgylchedd gydol y dydd.

Mae Asiantaeth yr Amgylchedd Cymru yn annog y cyhoedd i chwilio am y wybodaeth ddiweddaraf am lifogydd naill ai drwy ddarllediadau newyddion, neu eu gwefan a'u llinell gymorth arbennig, sef 0845 988 1188.

Straeon perthnasol

Dolenni perthnasol ar y we

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol