Dathliad dwbl i Eglwys Sant Ioan

Bydd Esgob Llanelwy yn ymuno â phlwyfolion Eglwys Sant Ioan yn Rhosymedre ger Wrecsam ar gyfer dathliad arbennig ddydd Sul

Bydd y Gwir Barchedig Dr Gregory K Cameron yn ail-gysegru'r adeilad yn dilyn cynllun adfer gwerth £80,000 ac yn cymryd rhan mewn gwasanaeth i ddathlu penblwydd yr eglwys yn 175 oed.

Dechreuodd y gwaith o adfer Eglwys Sant Ioan ym mis Ionawr eleni.

Roedd y gwaith cynnwys gwneud ystafelloedd cyfarfod a gosod cegin a thoiled.

Bydd prosiect iechyd meddwl Anchor Point yn defnyddio'r adeilad.

Mae'r eglwys wedi gofyn i'w haelodau i roi awgrymiadau o ran y fath o waith y dylai'r gweithiwr iechyd meddwl ymgymryd ag ef.

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.