Cymru i gadw tair catrawd

Mae Cymru'n cadw'r un nifer o gatrodau - Y Queen's Dragoon Guards (y Cafalri Cymreig), y Cymry Brenhinol a'r Gwarchodlu Cymreig er gwaetha cyhoeddiad yn y Senedd yn Llundain am doriadau yn y fyddin.

Ond fe fydd y Cymry Brenhinol yn colli un o'i ddwy fataliwn.

Yn ôl ffigyrau'r Weinyddiaeth Amddiffyn mae yna 575 o filwyr ar hyn o bryd yn gwasanaethu gyda'r Ail Fataliwn.

Y Gweinidog Amddiffyn, Philip Hammond, gyhoeddodd manylion y toriadau yn Nhŷ'r Cyffredin ddydd Iau.

Mae'r newidiadau yn golygu 20,000 yn llai yn rhengoedd y fyddin.

Ar hyn o bryd, mae 'na 102,000 yn y fyddin.

Y bwriad o fewn wyth mlynedd yw gostwng y nifer i 82,000.

Ymgyrchu

Ers wythnosau mae cefnogwyr y Cafalri Cymreig - sydd a 295 o filwyr - wedi bod yn ymgyrchu i geisio sicrhau eu dyfodol.

Dywedodd Mr Hammond fod pwysigrwydd catrodau yn amlwg yn hanes y fyddin.

"Rwyf hefyd yn cydnabod fod gan unedau'r fyddin gysylltiad agos gyda chenhedloedd a rhanbarthau'r Deyrnas Unedig," meddai.

Yn ôl Ysgrifennydd Cymru, Cheryl Gillan, mae'r penderfyniad yn golygu bod gan y fyddin bresenoldeb sylweddol yng Nghymru.

'Sicrwydd'

"Tra ei bod yn siomedig fod dwy fataliwn gyda hanes balch yn cael eu huno, rwyf wedi cael sicrwydd gan yr Ysgrifennydd Amddiffyn fod hyn yn angenrheidiol er mwyn sicrhau bod y fyddin yn aros yn hyblyg er mwyn wynebu heriau'r dyfodol."

Ond mae'r Blaid Lafur wedi beirniadu'r newidiadau.

Dywedodd Prif Weinidog Cymru, Carwyn Jones, fod y newyddion yn hynod o siomedig i'r Cymry Brenhinol.

"Mae cyhoeddiad heddiw ... yn golygu bod aelodau Ail Fataliwn y Cymry Brenhinol yn wynebu colli eu swyddi.

"Rwyf eisoes wedi siarad â'r Brigadydd Napier, Pennaeth y Fyddin yng Nghymru, am arwyddocâd y penderfyniad i ddynion a menywod ein lluoedd arfog.

"Bydd colli'r fataliwn yn ergyd i filwyr a chyn filwyr a hefyd i deuluoedd y rhai sydd wedi aberthu eu bywydau."

"Yn y misoedd nesa' byddwn yn cydweithio'n agos gyda'r fyddin er mwyn gweld sut y gall Llywodraeth Cymru ddarparu cefnogaeth i'r milwyr a'u teuluoedd wrth iddyn nhw adael y lluoedd arfog."

Rhybuddio

Dywedodd llefarydd Llafur ar Gymru, Owen Smith, ei fod wedi rhybuddio'r wythnos diwethaf y byddai Cymru ar ei cholled oherwydd yr arolwg.

"Mae cadw bathodyn y Cafalri Cymreig yn fuddugoliaeth ddigon gwag i Gymru wrth i 600 o swyddi ddiflannu o ail fataliwn y Cymry Brenhinol.

"Mae'r cyhoeddiad yn brawf pellach pam bod Cymru angen llais cryfach yn y Cabinet wrth i benderfyniadau gael eu gwneud."

Straeon perthnasol

Cysylltiadau Rhyngrwyd

Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am safleoedd rhyngrwyd allanol.