Beirniadu £648 am ffolderi coch
- Cyhoeddwyd
Dyma'r tro cyntaf i ffolderi newydd gael eu prynu mewn 12 mlynedd
Mae'r Ceidwadwyr Cymreig wedi beirniadu gwariant o £648 am ffolderi coch newydd i weinidogion.
Dywedodd eu harweinydd, Andrew RT Davies, yr Aelod dros Ganol De Cymru, bod y gwariant ar y naw ffolder yn "nodweddiadol o Gabinet sydd allan o gyswllt".
Ond yn ôl Jane Hutt, dyma'r tro cyntaf i ffolderi newydd gael eu prynu mewn 12 mlynedd.
Mae Mr Davies wedi cynnig prynu ffolderi sydd ar gael o archfarchnad, meddai, am rhwng 30c a £1.50, yn hytrach na'r £72 yr un am y rhai dan sylw.
Dywedodd Mr Davies: "Mae hyn yn rhagor o dystiolaeth bod blaenoriaethau'r Prif Weinidog yn anghywir.
"Os hoffai eu hanfon yn ôl a chael ad-daliad o'r arian cyhoeddus a wariwyd, byddwn yn hapus i brynu naw arall yn eu lle".
Dolenni perthnasol ar y we
Dyw'r BBC ddim yn gyfrifol am gynnwys gwefannau allanol